PAPUR AR GYFER Y PWYLLGOR MENTER A BUSNES  

POLISI LLYWODRAETH CYMRU AR SECTORAU

 

Cyflwyniad

1.    Diben y papur hwn yw amlinellu tystiolaeth ysgrifenedig ynghylch Polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Sectorau. Papur ydyw ar gyfer y Pwyllgor Menter a Busnes.

2.    Mae'r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn cynnig cymorth i naw sector fel rhan o'i gwaith ym maes datblygu economaidd. Dyma'r sectorau y cred eu bod yn gwbl allweddol i economi Cymru .  Mae'r dull hwn yn ategu ymyriadau ehangach o fewn yr Adran ac ar draws Llywodraeth Cymru er mwyn hybu swyddi a thwf.

Rôl y Paneli Sector

3.    Mae gan bob Sector ei banel ei hun, yn cynnwys pobl o fusnesau'r sector preifat.   Rôl pob Panel Sector yw cynnig cyngor ynghylch y cyfleoedd a ddaw i ran y Sectorau a'u hanghenion, gan ddefnyddio eu harbenigedd yn y sector preifat i bennu'r cyfleoedd ar gyfer ehangu busnesau a llywio datblygiadau polisi a blaenoriaethau buddsoddi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

4.    Mae rôl a dull y Paneli Sector wrthi'n cael ei adolygu tra bo gwaith y Paneli Sector yn canolbwyntio ar gyflenwi yn hytrach na chynllunio.

Blaenoriaethau'r Sector

5.    Caiff y blaenoriaethau strategol ar gyfer pob un o'r naw Sector allweddol eu hamlinellu yn y Cynllun Cyflenwi Sectorau a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r Cynllun yn amlinellu'r cyfleoedd a'r heriau ynghyd â'r blaenoriaethau tymor byr, tymor canol a'r hirdymor sydd ynghlwm wrth effaith.  Gallwch weld y Cynllun drwy glicio ar y ddolen hon:

6.    http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/130125deliveryplan/?lang=cy

Cyllideb a Chymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Sectorau

7.    Mae ystod o ymyriadau wedi'u targedu ar gyfer y Sectorau, ynghyd â chyllideb benodol ar eu cyfer.

8.    Yn ogystal, gall Sectorau fanteisio ar gymorth ehangach gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys "Siop Un Stop” Busnes Cymru, cadwyni cyflenwi, cymorth ag entrepreneuriaeth, cymorth ag Ymchwil a Datblygu ac Arloesi, gwybodaeth ar-lein ynghyd â chyfeirio ac eiddo. Caiff y gyllideb Sectorau a Busnes ar gyfer 2012/13 a 2013/14 ei phennu yn nhabl 1.

9.    Gall y Sectorau hefyd fanteisio ar fathau eraill o gymorth ariannol uniongyrchol, gan gynnwys y gronfa JEREMIE gwerth £150m a gefnogir gan Ewrop, y Gronfa Gwyddor Bywyd gwerth £100m a Chronfa Fuddsoddi BBaChau Cymru sydd werth £40m.

10. Mae Model Busnes Sengl wrthi'n cael ei gyflwyno er mwyn cefnogi'r Sectorau. Diben hyn yw unioni adnoddau er mwyn cyflwyno cynnig mwy syml i fusnesau, gyda dull mwy trefnus o farchnata a ategir gan broses glir ar gyfer rheoli ymholiadau.

Tabl 1 – Cyllideb Gyflenwi Sectorau a Busnes

 

2012/13

£’000

2013/14

£’000

Sectorau a Busnes 

147,858

114,366

 

Grantiau a Benthyciadau

11. Mae'r tabl canlynol yn pennu'r ymrwymiadau presennol o ran grantiau a benthyciadau ar gyfer Sectorau a Busnes:

Grantiau a Ymrwymwyd / Benthyciadau a Gynigiwyd yn ystod y cyfnod 01/04/11 hyd 31/12/12

Swm

Nifer y Cynigion

 

Cyflenwi o fewn Sector 

£68,861,794

*489

* ar sail cynigion sydd wedi'u hymrwymo hyd yma

 

Monitro a Gwerthuso

12. Mae rhestr o weithgareddau yn ategu'r nodau a'r amcanion ar gyfer pob Sector. Caiff Dangosyddion Perfformiad Allweddol eu defnyddio ar gyfer monitro eu heffeithiolrwydd.  Mae ystod eang o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol ar draws y timau Sector sy'n canolbwyntio ar Swyddi a Thwf ac sy'n dibynnu ar y meysydd polisi y maent yn eu cefnogi.

13. Caiff cynnydd y gwaith o gyflenwi ein hymrwymiadau a monitro ein dangosyddion olrhain ei nodi yn niweddariadau blynyddol y Rhaglen Lywodraethu. Ychwanegir at y manylion hyn dros amser drwy edrych ar y canlyniadau a gyflawnir o fuddsoddiadau mwy hirdymor. Bydd hyn yn sicrhau dealltwriaeth fwy cytbwys o'r cynnydd.  

Y Berthynas ag Ardaloedd Menter a Mewnfuddsoddi

14. Mae Ardaloedd Menter yn canolbwyntio ar sectorau penodol ac yn cynnig cyfleoedd i fusnesau gael eu lleoli ar yr un safle â chlystyrau diwydiant sydd wedi'u hen sefydlu, manteisio ar gyfleoedd sy'n codi o fewn y gadwyn gyflenwi, neu elwa ar brosiectau strategol a gaiff eu cynllunio ar gyfer yr ardaloedd.

15. Mae'r tîm Masnach a Mewnfuddsoddi yn cydweithio'n agos â'r timau Sector ac â thimau Ardaloedd Menter er mwyn sicrhau bod gweithgareddau yn cael eu hintegreiddio. Eto i gyd, mae'r dull yn hyblyg er mwyn cynnwys teithiau masnach amlsector a mewnfuddsoddi o'r tu allan i'r Sectorau allweddol.  

Dulliau Marchnata a Chyfathrebu

16.Rydym wedi ymrwymo i farchnata'r dull sectorol ynghyd â chynnig Llywodraeth Cymru. Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein cynlluniau marchnata, ynghyd â'n marchnata ehangach yma yng Nghymru a thramor. Er enghraifft, ail-lansio gwefan newydd Busnes Cymru a lansio "Siop Un Stop" Busnes Cymru ar gyfer busnesau.